Mynd i'r cynnwys

Pam Cyfeiriadur Atgyweirio?

Dechrau Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth “Mwy Nag Ailgylchi” sy’n dangos uchelgais glir I symud y genedl I economi gylchol, carbon isel.

Y nod yw adeiladu ar newid diwylliannol sydd eisoes wedi digwydd ledled y wlad a gwneud Cymru’r trydedd genedl ailgylchu yn y byd, fel bod gwastraff diangen yn cael ei atal, bod cynhyrchion yn cael eu hailddefnyddio ac mae atgyweirio ac ail-weithgynhyrchu yn rhan greiddiol o’n cymdeithas.

Mae’r strategaeth “Mwy Nag Ailgylchu” hefyd yn amllinellau caffis atgyweirio a’r economi sy’n rhannu a pha mor hanfodol yw’r mentrau hyn I gefnogi datblygiad economi gylchol.

Cyfrifoldeb yr awdudorau lleol yn bennaf yw cyflawni’r nodau hyn ac sydd angen ymgysylltu â deiliad tai a busnesau I hyrwyddo ailddefnyddio ac atgyweirio fel yr opsiwn cyntaf I ddelio ag eitemau sy’n cael eu hystyriad yn wastraff.

Trwy sefydlu Cyfeiriadur Atgyweirio, cyfeirio pobl at fusnesau atgyweirio dibynadwy, yn ogystal â digwyddiadau agweithgareddau mewn perthynas ag atgyweirio, mae Grŵp CLAIRE Cymru yn gobeithio cynyddu’r nifer  sy’n manteisio ar atgyweirio yn y gymuned.

Why a Repair Directory