Ariennwyd cynhyrchu’r Cyfeiriadur Atgyweirio gan Lywodraeth Cymru trwy’r gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21, Aildeiladu Covid: Gweithgareddau Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghanol Trefi Cymru.
Dosberthir yr arian I helpu I gyflymu symudiad Cymru tuag at economi gylchol. Nod Llywodraeth Cymru yw symud tuag at economi fwy cylchol yng Nghymru, lle mae gwastraff yn cael ei osgoi, a bod adnoddau’n cael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd. Mae hon yn rhan allweddol o’r gweithredu sydd ei angen ar newid yn yr hinsawdd ac mae’n dod â chyfleoedd economaidd sylweddol fel rhan o’r newid I economi carbon isel.
Bydd Resource Efficiency Wales yn cynnal a chadw a diweddaru’r cyfeiriadur a’r wefan yn parhaus ar ran holl Gynghorau CLAIRE Cymru.