Mynd i'r cynnwys

Pa fusnesau sydd wedi’n rhestru?

listed business repairs

Mae’r busnesau sydd wedi’i  gynnwys yn y Cyfeiriadur Atgyweirio yn fusnesau atgyweirio “dibynadwy” dethol.

Defnyddir y set ganlynol o feini prawf / safonau I fesur dibynadwyedd busnes atgyweirio:

  • Mae gan y busnes gyfeiriad masnachu.
  • Mae gan y busnes 80% neu fwy o adolygiadau  cadarnhaol ar-lein, gydag o leiaf 5 adolygiad. Yr ydym yn bwriadu cynyddu hyn I isafswm o 10 adolygiad.
  • Dylid cyflwyno safon ar warrant yn fuan fel bod busnesau rhestredig yn profi gwarant un mis o leiaf ar atgyweiriadau.


Yn ogystal â hyn, rydym yn harneisio gwybodaeth arbenigol ein cymunedau ac yn cynnwys busnesau a argymellir gennych chi, defnyddiwr y cyfeiriadur.

Ymwadiad: ydym yn gwbl ymwybodol y gellir cystadlu yn erbyn adolygiadau ar-lein,neu’nagored I’w camddefnyddio. Rydym o’r farn maiadolygiadau “cadarnhaol” yw’r rhai hynny yn 3/4/5/ seren, ac ar hyn o bryd ni allwn eithrio adolygiadau”ffug” posibl o’r cynnwys hwn. Mae ffynonellau ein hadolygiadau yn blatfformau fel Google, Trustpilot, Facebook, Yell, Freeindex and Checkatrade.

Eitemau i’w hatgyweirio

Nid yw’r rhestr o eitemau sydd i’w cael ar ein platform yn gyfyngedig. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys yr eitemae canlynol: